Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 16 Chwefror 2022

Amser y cyfarfod: 13.30
 


54(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i roi'r gorau i'r prosiect i gael gwared ar gylchfannau'r A55?

 

 

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Etholiadau Llywodraeth Leol

(60 munud)

NDM7881 Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ac yn galluogi cynghorau i gael gwared ar system y cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr;

b) y defnyddir system fwy cyfrannol mewn etholiadau lleol yn yr Alban, gan leihau nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth, a sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorau newydd a etholir ym mis Mai 2022 i sicrhau bod dull mwy cynrychioliadol a system genedlaethol unffurf yn cael eu defnyddio i ethol cynghorwyr ledled Cymru erbyn 2027.

Cyd-gyflwynwyr

Llyr Gruffydd

Jane Dodds

Cefnogwyr

Cefin Campbell

Heledd Fychan

Luke Fletcher

Mabon ap Gwynfor

Peredur Owen Griffiths

Rhun ap Iorwerth

Siân Gwenllian

Sioned Williams

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar ddeiseb P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen rhag ei Dymchwel

(30 munud)

NDM7924 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel’ a gasglodd 5,522 o lofnodion.

P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel

</AI7>

<AI8>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Ariannu Llywodraeth Leol

(60 munud)

NDM7923 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn diolch i gynghorwyr, awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am eu rôl yn ystod pandemig y coronafeirws.

2. Yn credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o'r ansawdd uchel y maent yn anelu ato.

3. Yn gresynu at y ffaith nad yw'r fformiwla ariannu llywodraeth leol bresennol yn addas i'r diben.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol allanol o ariannu llywodraeth leol yng Nghymru i sicrhau ei fod yn darparu cyllid teg ar gyfer pob rhan o'r wlad.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi'r cynnydd arfaethedig o 9.4 y cant yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2021, a fydd yn parhau i gynorthwyo awdurdodau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel.

Yn cydnabod bod llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ar y cyd yn parhau i adolygu a datblygu'r fformiwla ariannu fel ei bod yn parhau i fod yn deg, yn addas i'r diben ac yn cynnig sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i awdurdodau.

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

(30 munud)

NDM7914 Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru)

Adfywio canol trefi a dinasoedd yng Nghymru: ni fydd mwy o'r un peth yn gweithio

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2022

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>